Ynni ac allyriadau

Allyriadau nwy tŷ gwydr gan gwmnïau dŵr Lloegr a Chymru

Mae angen defnyddio llawer o ynni ar gwmnïau dŵr i drin dŵr, ei helpu i deithio i'ch cartref ac oddi yno ac wedyn ei drin cyn ei roi yn ôl yn ein hafonydd. Mae cwmnïau dŵr yn ymdrechu i leihau maint y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir a lleihau'r effaith ar newid yn yr hinsawdd.

Mae cwmnïau dŵr yn Lloegr wedi ymrwymo i gyflawni allyriadau gweithredol Net Zero erbyn 2030. I ddarganfod sut y bydd cwmnïau'n lleihau eu hallyriadau, gweler y yma.

3,301 allyriadau net yn seiliedig ar leoliad gweithredol mewn kilotunelli o garbon deuocsid cyfwerth y flwyddyn
Yn gyfartal i
2.2 miliwn
cyfartaledd allyriadau blynyddol car

Ffynhonnell: Water UK; Lloegr a Chymru, Ebrill 2022 - Mawrh 2023

Cliciwch ar gyfer cymhariaeth cwmni Close Panel

Pam gall gollyngidau nwy tŷ gwydr amrywio?

Mae faint o egni sydd ei angen i drin dŵr a charthffosiaeth yn amrywio am lawer o resymau. Mae hyn yn cynnwys lefel y driniaeth sydd ei hangen ar gyfer y dŵr, daearyddiaeth yr ardal - pa mor wastad neu fryniog yw ardal a fydd yn effeithio ar faint o ynni sydd ei angen i bwmpio dŵr - a faint o ddŵr y mae cwsmeriaid yn ei ddefnyddio.

Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr hefyd yn amrywio yn dibynnu ar faint mae cwmnïau ynni yn eu cynhyrchu eu hunain, yn ogystal ag amrywiadau yn y carbon deuocsid sy'n cael ei ryddhau wrth gynhyrchu'r trydan maen nhw'n ei brynu o'r grid. Effeithir ar yr allyriadau hyn hefyd gan y ffordd y mae cwmnïau'n prosesu dŵr, carthffosiaeth a slwtsh.

Mae yna wahanol ffyrdd o gyfrifo allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae’r adran hon yn darparu allyriadau ‘seiliedig ar leoliad’, sy’n defnyddio ffigur cyfartalog ar gyfer yr allyriadau o drydan yn y rhanbarth lle caiff ei ddefnyddio, sy’n rhoi darlun cyson o allyriadau dros amser. Daw’r data o’r adroddiadau perfformiad blynyddol y mae cwmnïau’n eu darparu i reoleiddiwr economaidd y diwydiant dŵr, Ofwat. Wrth i ofynion adrodd newydd gael eu cyflwyno yn 2022-23, dim ond data ar ôl y newid hwn a ddangosir i osgoi dryswch.



Allyriadau nwyon tŷ gwydr gweithredol net (KgCO2e) fesul megalitr o ddŵr wedi'i drin – yn seiliedig ar leoliad

Mae’r graff hwn yn dangos allyriadau nwyon tŷ gwydr a grëwyd gan y pŵer a ddefnyddiwyd i drin a chyflenwi dŵr yn y flwyddyn ddiweddaraf. Mae yna wahanol ffyrdd o gyfrifo allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae’r graff hwn yn dangos allyriadau ‘seiliedig ar leoliad’, gan ddefnyddio ffigur cyfartalog ar gyfer yr allyriadau o drydan yn y rhanbarth lle caiff ei ddefnyddio, a fydd yn rhoi darlun cyson o allyriadau dros amser.

Gan fod gan gwmnïau o wahanol feintiau lefelau gwahanol o allyriadau, mae swm yr allyriadau mewn cilogramau cyfwerth â charbon deuocsid ar gyfer pob cwmni wedi'i rannu â chyfaint y dŵr sy'n cael ei drin mewn miliynau o litrau.

Mae yna bethau eraill a allai wneud i lefel yr allyriadau amrywio rhwng cwmnïau, fel lefel y driniaeth sydd ei hangen ac a yw ardaloedd yn wastad neu'n fryniog. Byddai cynnwys yr holl ffactorau hyn yn gwneud y graff yn gymhleth iawn felly, i'w gadw'n syml, ar gyfer y graff hwn mae allyriadau wedi'u rhannu â chyfaint y dŵr sy'n cael ei drin yn unig.

I gael gwybod mwy am allyriadau carbon pob cwmni, cliciwch ar y botwm o dan y graff.



      Allyriadau nwyon tŷ gwydr gweithredol net (KgCO2e) fesul megalitr o ddŵr wedi'i drin – yn seiliedig ar leoliad

      Ffynhonnell: Water UK

      Allyriadau nwyon tŷ gwydr gweithredol net (KgCO2e) fesul megalitr o garthffosiaeth wedi'i drin - yn seiliedig ar leoliad

      Mae’r graff hwn yn dangos allyriadau nwyon tŷ gwydr a grëwyd gan y pŵer a ddefnyddiwyd i drin carthion yn y flwyddyn ddiweddaraf. Mae yna wahanol ffyrdd o gyfrifo allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae’r graff hwn yn dangos allyriadau ‘seiliedig ar leoliad’, gan ddefnyddio ffigur cyfartalog ar gyfer yr allyriadau o drydan yn y rhanbarth lle caiff ei ddefnyddio, a fydd yn rhoi darlun cyson o allyriadau dros amser.

      Gan fod gan gwmnïau o wahanol feintiau lefelau gwahanol o allyriadau, mae swm yr allyriadau mewn cilogramau cyfwerth â charbon deuocsid ar gyfer pob cwmni wedi'i rannu â chyfaint y carthion a driniwyd mewn miliynau o litrau.

      Mae yna bethau eraill a allai wneud i lefel yr allyriadau amrywio rhwng cwmnïau, fel lefel y driniaeth sydd ei hangen ac a yw ardaloedd yn wastad neu'n fryniog. Byddai cynnwys yr holl ffactorau hyn yn gwneud y graff yn gymhleth iawn felly, i'w gadw'n syml, ar gyfer y graff hwn mae allyriadau wedi'u rhannu â chyfaint y carthion a driniwyd yn unig.

      I gael gwybod mwy am allyriadau carbon pob cwmni, cliciwch ar y botwm o dan y graff.

          Allyriadau nwyon tŷ gwydr gweithredol net (KgCO2e) fesul megalitr o garthffosiaeth wedi'i drin - yn seiliedig ar leoliad

          Ffynhonnell: Water UK

          Arbed dŵr

          Cewch helpu cwmnïau dŵr i ddefnyddio llai o ynni drwy arbed dŵr fel nad oes rhaid iddyn nhw trin a phwmpio cymaint ohono o gwmpas. Edrychwch ar sut y gallwch arbed dŵr

          Mae eich porwr yn hen !

          Diweddaru eich porwr i weld y wefan yn gywir.