Caledwch

Eich tirwedd lleol sy'n achosi i'ch dŵr fod yn feddal neu yn galed

Yn gyffredinol mae dŵr yn galetach yn y de ac yn mynd yn fwy meddal wrth symud tuag at y gogledd.
  • Mae dŵr glaw yn naturiol feddal ond unwaith bydd yn disgyn ar y ddaear a ffiltro drwy greigiau, bydd yn codi mwynau naturiol, fel calsiwm a magnesiwm. Bydd calewch y cyflenwad dŵr yn dibynnu ar y tirwedd lleol.

  • Nid am resymau iechyd, ond os ydych yn byw mewn ardal dŵr caled bydd meddalydd yn gwella effeithlonrwydd ac ymestyn oes offer domestig (e.e. peiriannau golchi). Bydd seboni'n haws a lleihau olion ar offer ymolchfa, ond rhaid cadw cyflenwad heb ei feddalu i'w yfed.

    Ceir mwy o fanylion am galedwch dŵr mewn taflenni cyngor i ddefnyddwyr ar www.DWI.gov.uk.

  • Gall dŵr caled arwain at gen a chalch mewn systemau gwresogi, tegellau, peiriannau golchi llestri, sinciau a thoiledau. Dyma ychydig o gyngor am yr hyn gallwch ei wneud i dynnu cen a chalch:

    Tegellau - Llenwch y tegell i'w hanner gyda dŵr, ychwanegwch ddwy llond llwy fwrdd o finegr gwyn a'i adael am bedair awr, wedyn cewch wagio'r tegell a thynnu'r calch rhydd. Rinsiwch a'i wneud eto mor aml ag sydd eisiau. Cewch hefyd brynu tynnwr cen a dilyn y cyfarwyddiadau ar y paced.

    Peiriannau golchi llestri - Mae meddalydd dŵr wedi'i osod gan lawer o'r rhain ar gyfer dŵr i rinsio llestri. Dylech hefyd ail-lenwi eich peiriant gyda halen peiriant golchi llestri yn rheolaidd.

    Bathau, sinciau a thoiledau - Achosir cen gan ddyddodion o halwynau calsiwm a geir mewn dŵr caled. I gael y canlyniad gorau dylid defnyddio defnydd glanhau hylif yn rheolaidd. Os bydd y calch yn aros yn eich toiled efallai byddwch am lanhau padell y toiled yn rheolaidd gyda glanweithydd asid sydd ar gael o siopau haearnwerthwyr ac archfarchnadoedd.

Ydych chi'n cael problemau gyda dŵr caled?

Cysylltch â'ch cwmni dŵr lleol. Heb wybod pwy yw eich cyflenwr? Dysgwch hynny yma

Mae eich porwr yn hen !

Diweddaru eich porwr i weld y wefan yn gywir.