Plwm

Gall plwm yn y dŵr fod yn broblem

Mae'n bosib i olion bach o blwm gael eu codi wrth i ddŵr basio drwy hen bibellau plwm yn eich cartre. Gall plwm fod yn niweidiol i fenywod beichiog ac i blant ifainc.
  • Mae'r Adran Iechyd yn cynghori fod plwm yn medru bod yn niweidiol os cynyddu yn eich corff, yn enwedig i fenywod beichiog a phlant ifainc. 10 microgram i bob litr (ug/l) yw safon Mudiad Iechyd y Byd ar gyfer plwm mewn dŵr yfed. (Mae ug/l yr un peth ag un rhan i bob mil o filiynnau). Ychydig iawn o smplau dŵr sy'n fwy na'r lefel hon.

  • Wrth adael y gweithfeyd trin mae prin dim plwm yn y dŵr, ond mae'n bosib weithiau i olion bach gael eu codi wrth i'r dŵr basio drwy hen bibellau plwm. Fel arfer dim ond adeiladau a adeiladwyd cyn1970 a effeithir gan fod y rhai a adeiladwyd wedyn yn debygol o gael pibellau plastig neu gopr.

    Dim ond mewn systemau gwres canolog y dylid defnyddio soldr plwm, ond weithiau ceir plwm mewn dŵr yfed gan fod soldr plwm wedi ei ddefnyddio'n anghywir wrth blymio tai. Er mwyn osgoi hyn, pan fydd angen plymiwr arnoch, dewisiwch fusnes sy'n aelod o Gynllun Contractwyr Cymeradwy, fel WaterSafe. Bydd plymiwr WaterSafe wedi cael hyfforddiant mewn Rheolaethu Ffitio Dŵr, fel bod modd leihau'r risg a ddaw yn sgil gosod gwael neu ddefnyddiau is-safonol a all heintio eich cyflenwad o ddŵr yfed.

  • Bydd eich cwmni dŵr yn medru helpu chi ddod o hyd i achos y plwm yn eich dŵr a newid unrhyw bibellau plwm sy'n eiddo iddyn nhw. Mae'n bosib y byddan nhw'n eich cynghori i adnewyddu eich plymio hefyd. I weld pa bibellau sy'n eiddo i chi, edrychwch ar y diagram yma.

    Mae mwy o fanylion am blwm ar gael mewn taflen gyngor i gwsmeriaid ar www.DWI.gov.uk.

Cwestiynau am bibellau plwm?

Cysylltwch â'ch cwmni dŵr. Ddim yn gwybod pwy yw eich cyflewnr? Ffindiwch allan yma

Mae eich porwr yn hen !

Diweddaru eich porwr i weld y wefan yn gywir.