Lliw

Dylai eich dŵr fod yn glir.

Ar adegau prin am gyfnod byr gallai ymddangos yn afliwiedig neu gynnwys gronynnau.

7.7 Cysylltiadau am bob 10,000 o bobl

Nifer o weithiau i gwsmeriaid gysylltu â chwmnïau dŵr oherwydd nad yw'r dŵr yn glir

Ffynhonnell: Drinking Water Inspectorate; Lloegr a Chymru, Ionawr 2022 - Rhagfyr 2022

Cliciwch i gymharu pob cwmni Cau'r panel

Pam gall perfformiad amrwyio?

Yn y mwyafrif o achosion, mae'r dŵr sydd yn dod allan o'r tapiau'n glir.

Mae nifer o resymau pam fod dŵr yn gallu bod yn aneglur. Materion gwaith plymwr mewn cartrefi fel cyrydiad o bibellau yn gallu achosi problemau.

Gall gwaith neu waith heb ei drefnu ar bibellau dŵr (er enghraifft i drwsio pibell ddŵr sydd wedi byrstio yn y stryd) aflonyddu gwaddod yn y pibellau, sydd yn gallu, am gyfnod byr, wneud y dŵr yn frown, neu greu swigod aer diniwed, sydd yn gwneud i'r dŵr edrych yn gymylog.

Mae eich tirlun lleol yn achosi i'ch dŵr fod yn feddal neu'n galed. Mae dŵr fel arfer yn galetach yn y de ac yn dod yn fwy meddal wrth symud i'r gogledd. Nid yw'r mwyafrif o gwmnïau'n meddalu'r dŵr oherwydd mae'n ddrud iawn ond gall cwsmeriaid ddewis i osod meddalwyr dŵr eu hunain.

Nifer o weithiau y cafodd cwmnïau eu cysylltu gan gwsmeriaid am olwg y dŵr o'u tap (pob 10,000 o bobl a wasanaethwyd)

Mae'r graff yn dangos y nifer o weithiau wnaeth cwsmeriaid gysylltu gyda'u cwmnïau dŵr am olwg eu dŵr tap yn y flwyddyn ddiwethaf. Er mwyn i gwmnïau gyda niferoedd gwahanol o gwsmeriaid allu cael eu cymharu, mae'r graffiau'n dangos y nifer bob 10,000 o bobl a wasanaethwyd.

      Nifer o weithiau y cafodd cwmnïau eu cysylltu gan gwsmeriaid am olwg y dŵr o'u tap (pob 10,000 o bobl a wasanaethwyd)

      Ffynhonnell: Drinking Water Inspectorate

          Nifer o weithiau y cafodd cwmnïau eu cysylltu gan gwsmeriaid am olwg y dŵr o'u tap (pob 10,000 o bobl a wasanaethwyd).

          Ffynhonnell: Drinking Water Inspectorate

          • Y ddau beth pwysicaf sy'n achosi afliwiad yw:

            • aflonyddu ar ddyddodion diniwed sy'n troi'r dŵr yn frown, yn ddu neu yn oren. Gall hyn ddigwydd os aflonyddir ar y brif system, fel pibell yn torri neu yn gollwng.
            • Aer neu galch yn gwneud i'r dŵr edrych yn wyn.

            Mae taflen cyngor i ddefnyddwyr ar www.DWI.gov.uk yn cynnwys mwy o wybodaeth am ddŵr afliwiedig.

          Ydy eich dŵr yn afliwiedig o hyd?

          Cysylltwch â'ch cwmni dŵr lleol. Heb wybod pwy yw eich cyflenwr? Dysgwch hynny yma

          Mae eich porwr yn hen !

          Diweddaru eich porwr i weld y wefan yn gywir.