Fflworid

Weithiau ceir fflworid mewn dŵr tap

Mwyn naturiol yw fflworid a geir yn y ddaear. Mae lefelau isel o fflworid ar gael yn naturiol yn y rhan fwyaf o'r dŵr yfed yn Lloegr a Chymru. Yn Lloegr, yr awdurdod iechyd lleol sy'n gwneud y penderfyniad am roi fflworid yn eich cyflenwad dŵr lleol, ac yng Nghymru, Llywodraeth Cymru sy'n gwneud hynny. Gofynnir i gwmnïau dŵr ychwanegu mwy o fflworid drwy fesur iechyd cyhoeddus oherwydd gall helpu atal pydredd dannedd.

Lefelau Fflworid Nodweddiadol (2015)

Lefelau Fflworid Nodweddiadol (2015)
  • Mae lefelau isel o fflworid ar gael yn naturiol yn y rhan fwyaf o ddŵr yfed yn Lloegr a Chymru. Mewn rhai mannau lle mae'r awdurdodau iechyd lleol wedi gofyn i gwmnïau dŵr ychwanegu mwy o fflworid drwy fesur iechyd cyhoeddus, mae lefelau o tua 1 miligram i bob litr (mg/l) yn llesol wrth atal pydredd dannedd (mae un mg/l yn gyfartal i un rhan i bob miliwn). Oherwydd hyn caiff ei ychwanegu i lawer o fathau o bast dannedd.

    Yn Lloegr, gwneir penderfyniadau am fflwroreiddio gan awdurdodau iechyd. Ni chaniateir i gwmni dŵr ychwanegu fflworid i gyflenwadau o ddŵr yfed ond drwy gytundeb gyda Iechyd Cyhoeddus Lloegr. Rhaid ymgynghori â'r cyhoedd lleol a'r cwmni dŵr am ddymunoldeb a dichonolrwydd unrhyw gynllun arfaethedig i ychwanegu fflworid. Nid yw hyn yn digwydd ond mewn ychydig o ardaloedd yn Lloegr a Chymru - a ddynodir yn ardaloedd brith ar y map uchod.

    Yng Nghymru, gwneir penderfyniadau am fflworeiddio gan Lywodraeth Cymru.

    Ceir mwy o fanylion mewn taflen i gwsmeriaid ar www.DWI.gov.uk .

Cwestiynau pellach am fflwrorid yn eich dŵr?

Cysylltwch â'ch cwmni dŵr lleol. Heb wybod pwy yw eich cyflenwr? Dysgwch hynny yma

Mae eich porwr yn hen !

Diweddaru eich porwr i weld y wefan yn gywir.