Diffyg cyflenwad

Cadw'r dŵr i lifo 24/7

Wrth droi'r tap ymlaen, mae disgwyl i'r dŵr lifo. Cewch ddibynnu ar hyn yn digwydd bron bob amser ond am wahanol resymau mae'n bosibl bydd toriad yn eich cyflenwad.

23 Munudau a gollir ym mhob eiddo bob blwyddyn ar gyfartaledd

Canlyniadau a seilir ar ddigwyddiadau diffyg cyflenwad dros 3 awr neu fwy

Ffynhonnell: Dŵr UD; Lloegr a Chymru, Ebrill 2024- Mawrth 2025

Cliciwch i gymharu pob cwmni Cau'r panel

Er bod y rhan fwyaf o doriadau yn cael eu datrys yn gyflym, mae rhai sy'n anoddach i'w datrys. Yn anffodus, gall hyn olygu bod yn rhaid i gwsmeriaid aros yn hirach i'w dŵr ddod yn ôl ymlaen.

Sut gellir cymharu cwmnïau?

Mae gan bob cwmni dargedau ar gyfer sut mae cwsmeriaid yn cael eu heffeithio gan golli eu cyflenwad - a ydynt yn eu cyrraedd, yn eu curo neu'n eu methu?

Pam y gallai perfformiad amrywio?

Mae pibellau sy'n gollwng neu'n byrstio yn brif reswm pam y gallai cyflenwad dŵr gael ei dorri, a gallai pibellau byrstio ar unrhyw adeg. Gall tywydd poeth a sych neu oer rhewllyd wneud i'r ddaear ehangu neu gyfangu o amgylch pibellau prif gyflenwad dŵr, gan eu gwneud yn fwy tebygol o fyrstio.

Mewn rhai achosion gall gymryd amser hir i atgyweirio neu ailosod y bibell oherwydd eu bod mewn ardaloedd adeiledig ac yn anodd cyrraedd atynt.

Weithiau gall hefyd gymryd amser i ddod o hyd i'r union ran o'r bibell sydd wedi torri gan ei bod yn ddwfn o dan y ddaear. Os bydd pibell fawr yn byrstio ac yn cymryd amser hir i'w thrwsio, gall wneud gwahaniaeth mawr i berfformiad cyffredinol cwmni.

Munudau ar gyfartaledd a gollwyd oherwydd ymyriadau cyflenwad (cyfanswm pob eiddo a wasanaethwyd) yn ôl targedau cwmni

Mae'r graff yn dangos p'un ai a ydy cwmnïau wedi cwrdd â'u targedau yn y flwyddyn diweddaraf. Mae'r targedau mewn munudau – os yw gwir golled o gyflenwad yn llai na'r targed mae'n well. Mae'r ffigyrau yn y graff yma wedi eu cyflwyno fel munudau: eiliadau.

      Munudau ar gyfartaledd sydd wedi eu colli oherwydd ymyriadau i gyflenwad (cyfanswm pob eiddo a wasanaethwyd) yn ôl targedau cwmni

      Ffynhonnell: Water UK

      Munudau ar gyfartaledd a gollwyd oherwydd ymyriadau cyflenwad (cyfanswm pob eiddo a wasanaethwyd)

      Mae'r graff yn cymharu cwmnïau yn ôl ei gilydd ar gyfer y mesur safonol o golled o gyflewnad ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf. Caiff y ffigyrau yn y graff yma eu cyflwyno fel munudau: eiliadau.

      Pam fod dau far ar gyfer rhai cwmnïau?

      Mae pob cwmni wedi cytuno ar ffordd i fesur colled o gyflenwad gyda'i gwsmeriaid ac Ofwat, y rheolydd.

      Mae'r mwyafrif o gwmnïau'n gwneud hyn mewn modd safonol (ymyriadau'n fwy na thair awr) - ond mae rhai yn wahanol. Ar gyfer y cwmnïau yma, mae'r ffordd safonol a ffordd y cwmni yn cael eu dangos.

      Mae un cwmni yn mesur ymyriadau'n fwy na phedair awr o unrhyw gyfnod, ond ymyriadau a oedd heb eu cynllunio.

          Munudau ar gyfartaledd a gollwyd oherywdd ymyriadau cyflenwad (cyfanswm pob eiddo a wasanaethwyd). Mae cyfartaledd diwydiant ar gyfer ymyriadau yn hirach na 3 awr.

          Ffynhonnell: Water UK

          Munudau coll ar gyfartaledd oherwydd ymyriadau cyflenwad o dair awr neu fwy (cyfanswm pob eiddo a wasnaethwyd)

          Mae'r graff yn cymharu cwmnïau yn erbyn ei gilydd ar gyfer y mesur safonol o golled i doriadau cyflenwad o dair awr neu fwy dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

              Munudau ar gyfartaledd a gollwyd oherwydd ymyriadau cyflenwad o dair awr neu fwy (cyfanswm pob eiddo a wasanaethwyd).

              Ffynhonnell: Water UK

              45,383 Ffynhonnell: Dŵr UD; Lloegr a Chymru, Ebrill 2024 - Mawrth 2025

              Number of pipe (mains) repairs

              Nifer yr atgyweiriadau i bibellau (prif gyflenwad).

              Ffynhonnell: Water UK; Lloegr a Chymru, Ebrill 2024 - Mawrth 2025

              Cliciwch i gymharu pob cwmni Cau'r panel

              Why might performance vary?

              Pipes can burst for many reasons, which can vary over time and between different regions. Hot and dry or freezing cold weather leads to the ground expanding or contracting around water pipes, resulting in bursts. Older pipes will tend to burst more, and soil conditions can lead to some pipe materials being eaten away.

              In cities and towns, heavy traffic compresses the soil around the pipe and this can damage the pipe.

              Nifer yr atgyweiriadau pibellau yn rhwydwaith pibellau'r cwmni (fesul 1,000 cilomedr o bibell)

              Gan fod cwmnïau o wahanol feintiau, mae gan rai fwy o bibellau nag eraill. Mae’r graff yn dangos sawl gwaith y bu’n rhaid trwsio pibellau pob cwmni am bob 1,000km o bibellau ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf.

                  Nifer yr atgyweiriadau pibellau yn rhwydwaith pibellau'r cwmni (fesul 1,000 cilomedr o bibell)

                  Ffynhonnell: Water UK

                  Nifer o bibellau wedi eu byrstio mewn rhwydwaith pibell cwmni (pob 1,000 cilomedr o bibell)

                  Gan fod cwmnïau o wahanol feintiau yn bodoli, mae gan rai piblinellau mwy nag eraill. Mae'r graff yn dangos sawl gwaith mae pibellau cwmni wedi byrstio am bob 1,000cm o bibellau am y ddwy flynedd ddiwethaf.

                      Nifer yr atgyweiriadau pibellau yn rhwydwaith pibellau'r cwmni (fesul 1,000 cilomedr o bibell).

                      Ffynhonnell: Water UK

                      • Os bydd eich cyflenwad dŵr yn methu, cysylltwch

                        â'ch cwmni dŵr oherwydd dylent allu dweud wrthych:

                        • y rheswm pam yr amharwyd ar eich cyflenwad neu ei dorri i ffwrdd, er enghraifft ar gyfer gwaith brys
                        • ble i ddod o hyd i gyflenwad arall
                        • pa bryd y dylech ddisgwyl i'r cyflenwad ddod yn ôl- er bod hyn yn anodd i'w ragweld mewn achosion methiannau annisgwyl

                        Mewn achosion toriadau sydd wedi'u trefnu i bara dros bedair awr, dylai cwmnïau dŵr roi 48 awr o rybudd fel arfer

                        Dan amgylchiadau sychder, caiff y cwmnïau dŵr wahardd pibelli dŵr neu ddefnyddio llawer iawn o ddŵr mewn dulliau eraiill er mwyn diogelu'r cyflenwad dŵr rhag methu.

                      Dim dŵr yn eich tap?

                      Cysylltwch â'ch cwmni dŵr lleol os gwelwch yn dda. Heb wybod pwy yw eich cyflenwr? Dysgwch hynny yma

                      Mae eich porwr yn hen !

                      Diweddaru eich porwr i weld y wefan yn gywir.