Carthffosydd yn gorlifo

Nifer y digwyddiadau lle'r oedd carthion yn gorlifo neu'n gorlifo i mewn i dŷ

Mae gorlifo o garthffosydd yn annymunol ac yn peri pryder ac mae cwmnïau dŵr yn gwario miliynau bob blwyddyn i atal hyn rhag digwydd. Mae camau'n bodoli'n ogystal y gallwch eu cymryd i leihau'r risg o orlifo o garthffosydd i'ch tŷ neu yn eich gardd.

4,808 Achosion o eiddo yn cael eu gorlifo gan garthffosiaeth yn fewnol

Ffynhonnell: Water UK; Lloegr a Chymru, Ebrill 2024 - Mawrth 2025

Cliciwch i gymharu pob cwmni Cau'r panel

Sut gellir cymharu cwmnïau?

Mae gan gwmnïau dargedau ar gyfer lleihau nifer y digwyddiadau pan fydd eiddo'n cael eu gorlifo â charthffosiaeth – a ydyn nhw'n eu cyrraedd, yn eu curo neu'n eu methu?

Pam y gallai perfformiad amrywio?

Er gwaethaf y miliynau a fuddsoddir gan gwmnïau dŵr bob blwyddyn, mae nifer o bethau o hyd a all achosi i garthffos orlifo – a gall y rhain gael effeithiau gwahanol ar draws y wlad a rhwng blynyddoedd.

Un achos cynyddol o lifogydd carthffosydd yw eu bod yn cael eu blocio ar ôl i'r pethau anghywir gael eu rhoi i lawr y toiled. Mae cadachau gwlyb a chynhyrchion glanweithiol yn brif achos blocâdau a dylid eu taflu yn y bin.

Un o effeithiau newid hinsawdd yw glaw trymach a mwy dwys, a all orlethu'r system garthffosiaeth a draenio.

Gan fod y mesur safonol yn cynnwys effaith pob storm, gall tywydd eithafol wneud i ffigurau amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

Heddiw, rydym yn adeiladu carthffosydd ar wahân i gael gwared â dŵr sydd wedi'i ddefnyddio yn y tŷ. Ond mewn llawer o Lundain a dinasoedd eraill, mae'r system garthffosiaeth wedi'i chyfuno â'r system draenio, sy'n golygu bod dŵr a ddefnyddir mewn ceginau, ystafelloedd ymolchi a thoiledau yn cymysgu â dŵr glaw, ac mae mwy o ddŵr i ddelio ag ef.

Nifer yr achosion o eiddo yn dioddef llifogydd gyda charthion (fesul 10,000)

A yw cwmnïau wedi cyrraedd eu targedau ar gyfer llifogydd mewnol o garthffosydd?

Mae'r graff yn dangos a yw cwmnïau wedi cyrraedd eu targedau ar gyfer atal eiddo rhag cael ei orlifo â charthion yn y flwyddyn ddiwethaf. Os yw'r ffigwr gwirioneddol yn llai na'r targed, mae'r cwmni wedi curo'r targed.

      Nifer o ardaloedd allanol wedi eu gorlifo gan garthffosiaeth (pob 10,000 o gysylltiadau i garthffosydd​).

      Ffynhonnell: Water UK

      Cyfanswm sawl eiddo wedi eu gorlifo gan garthffos (pob 10,000 o gysylltiadau i garthffosydd)

      Mae'r graff yma yn cymharu cwmnïau yn ôl ei gilydd am y flwyddyn ddiweddaraf. I gymharu cwmnïau o wahanol faint, caiff sawl eiddo sydd wedi eu gorlifo gan garthffosiaeth pob 10,000 o gysylltiadau i garthffosydd eu dangos.

          Cyfanswm sawl eiddo wedi eu gorlifo gan garthffosiaeth (pob 10,000 o gysylltiadau i garthffosydd)

          Ffynhonnell: Water UK

          Sawl eiddo wedi eu gorlifo gan garthffosiaeth (pob 10,000 o gysylltiadau i garthffosydd)

          Mae'r graff yma'n cymharu cwmnïau'n ôl ei gilydd am y tair blynedd diwethaf. I gymharu cwmnïau o wahanol faint, caiff sawl eiddo sydd wedi eu gorlifo gan garthffosiaeth pob 10,000 eu dangos.

              Nifer yr eiddo sydd wedi dioddef llifogydd gyda charthion (fesul 10,000 o gysylltiadau â charthffosydd).

              Ffynhonnell: Water UK

              Nifer y digwyddiadau lle roedd carthion wedi gorlifo ardaloedd o dir preifat neu erddi

              50,281 Digwyddiadau o ardaloedd o dir preifat neu erddi yn cael eu gorlifo gan garthion

              Ffynhonnell: Water UK; Lloegr a Chymru, Ebrill 2024 - Mawrth 2025

              Cliciwch i gymharu pob cwmni Cau'r panel

              Pam y gallai perfformiad amrywio?

              Er gwaethaf y miliynau a fuddsoddir gan gwmnïau dŵr bob blwyddyn, mae nifer o bethau o hyd a all achosi i garthffos orlifo – a gall y rhain gael effeithiau gwahanol ar draws y wlad a rhwng blynyddoedd.

              Un achos cynyddol o lifogydd carthffosydd yw eu bod yn cael eu blocio ar ôl i'r pethau anghywir gael eu rhoi i lawr y toiled. Mae cadachau gwlyb a chynhyrchion glanweithiol yn brif achos blocâdau a dylid eu taflu yn y bin.

              Un o effeithiau newid hinsawdd yw glaw trymach a dwysach, a all orlethu'r system garthffosiaeth a draenio.

              Heddiw, rydym yn adeiladu carthffosydd ar wahân i gael gwared â dŵr sydd wedi'i ddefnyddio yn y tŷ. Ond mewn llawer o Lundain a dinasoedd eraill, mae'r system garthffosiaeth wedi'i chyfuno â'r system draenio, sy'n golygu bod dŵr a ddefnyddir mewn ceginau, ystafelloedd ymolchi a thoiledau yn cymysgu â glawiad, ac mae mwy o ddŵr i ddelio ag ef.

              Nifer o ardaloedd allanol wedi eu gorlifo gan garthffos (pob 10,000 o gysylltiadau i garthffosydd)

              Mae'r graff yn cymharu cwmnïau yn ôl ei gilydd ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf. I gymharu cwmnïau o wahanol maint, caiff y nifer o ardaloedd tir preifat neu erddi sydd wedi eu gorlifo gan garthffosiaeth pob 10,000 o gysylltiadau i garthffos eu dangos


                  Nifer o ardaloedd allanol wedi eu gorlifo gan garthffosiaeth (pob 10,000 o gysylltiadau i garthffosydd​)

                  Ffynhonnell: Water UK

                  Nifer o ardaloedd allanol wedi eu gorlifo (pob 10,000 o gysylltiadau i garthffosydd)

                  Mae'r graff yma'n cymharu cwmnïau yn ôl ei gilydd dros y tair blynedd diwethaf. I gymharu cwmnïau o wahanol faint, caiff y nifer o ardaloedd tir preifat neu erddi sydd wedi eu gorlifo gan garthffosiaeth pob 10,000 o gysylltiadau i garthffosydd eu dangos.

                      Nifer o ardaloedd allanol wedi eu gorlifo gan garthffosiaeth (pob 10,000 o gysylltiadau i garthffosydd​).

                      Ffynhonnell: Water UK

                      Beth na ddylech ei roi yn y toiled

                      Pan fydd carthffos neu ddraen yn blocio, gall achosi llifogydd yn nghartrefi pobl eraill. Gall rhwystrau hefyd arwain at lygredd yn yr amgylchedd, gan ddifrodi afonydd a thraethau. Weips gwlyb (gan gynnwys y rhai â sy'n dweud y gellir eu "fflysio", oni bai eu bod Fine to Flush), cewynnau i ffwrdd â nhw a nwyddau iechydaeth yw'r prif eitemau sy'n creu problemau

                      Beth i'w wneud gydag eitemau iechydol

                      Er gallai fod yn gyfleus i roi nwyddau iechydol i lawr y toiled, mae'n bosibl iddyn nhw gael eu dal yn y garthffos, crynhoi yno a chreu llifogydd o'r garthffos. Er mwyn osgoi hyn, ein cyngor yw rhoi'r nwyddau hyn mewn bag ac wedyn yn y bin. Wrth wneud hynny byddwch yn helpu lleihau costau dadblocio carthffosydd a draeniau cyhoeddus, a helpu cadw eich bil carthffosiaeth i lawr.

                      Osgoi rhwystrau yn y gegin

                      Mae olew o'r gegin, braster a saim yn gallu creu rhwystrau mawr. Ni ddylech roi'r rhain i lawr y draen. Yn lle hynny rydym yn argymell:

                      • arllwyswch eich olew, braster a saim i dun neu botel, gadael iddo galedu ac wedyn ei roi yn eich bin.
                      • gofynnwch i'ch cwmni carthffosiaeth am 'drap braster'’ – mae'r rhain ar gael am ddim.
                      • wedi'i gymysgu gyda hadau a chnau, gallwch roi braster yn eich gardd i fwydo adar.

                      defnyddiwch hidlenni yn eich sinc

                      Peidiwch â rhoi gweddillion bwyd i lawr y sinc, er gwaethaf beth ddywedir ar y pecyn. Yn lle hynny, rhowch nhw yn y bin.

                      Draeniau a charthffosydd - pa rai sy'n eiddo i chi?

                      Chi sy'n gyfrifol am y draeniau (mewn porffor) sy'n mynd â charthion o'ch eiddo at y ffin neu at y man lle mae'n ymuno (mewn melyn) â phibellau eiddo arall. Cwmnïau dŵr eraill piau'r pibellau mewn coch.

                      Draeniau a charthffosydd - pa rai sy'n eiddo i chi?
                      • pibellau sy'n mynd â charthion o'ch eiddo at y ffin (eich cyfrifoldeb)
                      • pibellau sy'n ymuno â phibellau eiddo arall (eich cyfrifoldeb)
                      • pibellau sy'n eiddo i gwmnïau dŵr (cyfrifoldeb y cwmni dŵr)

                      Oes cwestiwn gyda chi am garthffos yn gorlifo?

                      Cysylltwch â'ch cwmni dŵr lleol. Heb wybod pwy yw eich cyflenwr? Dysgwch hynny yma

                      Mae eich porwr yn hen !

                      Diweddaru eich porwr i weld y wefan yn gywir.