Adolygiadau Pris

Mae gan gwsmeriaid swyddogaeth mawr iawn yn dylanwadu ar flaenoriaethau cwmnïau dŵr ynghylch gwella gwasanaethau yn eu hardal. Mae hyn yn digwydd drwy adolygiadau pris sydd yn cael eu cynnal bob pum mlynedd.

  • Oherwydd bod cystadleuaeth am wasanaethau dŵr a charthffosiaeth yn gyfyngedig yng Nghymru a Lloegr, mae angen i gwmnïau gael rheolydd economaidd, Ofwat.

    Ofwat sy'n pennu'r pris, y buddsoddiad a'r pecyn gwasanaeth y mae cwsmeriaid yn ei dderbyn. Mae hyn yn cynnwys rheoli prisiau y gall cwmnïau eu codi ar eu cwsmeriaid. Mae’r broses hon yn cynnwys cydbwyso buddiannau defnyddwyr â’r angen i sicrhau y gall cwmnïau barhau i ddarparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yn llwyddiannus a diogelu’r amgylchedd.

    Mae Ofwat yn adolygu terfynau prisiau bob pum mlynedd. Cynhaliwyd yr adolygiad prisiau blaenorol yn 2019 ac mae'n berthnasol i filiau cwsmeriaid – a'r gwasanaethau y mae cwsmeriaid yn eu derbyn – rhwng 2020 a 2025. Mae Ofwat wrthi'n gweithio ar yr adolygiad prisiau ar gyfer 2024 (PR24). Bydd hyn yn gosod rheolaethau prisiau cyfanwerthu ar gyfer cwmnïau dŵr a charthffosiaeth ar gyfer 2025 i 2030.

  • Cyn i gwmnïau gyflwyno eu cynlluniau busnes pum mlynedd i Ofwat, maent yn gweithio gyda'u cwsmeriaid i ddeall pa wasanaethau sydd bwysicaf iddynt a beth sydd angen ei flaenoriaethu.

    Adolygiad prisiau 2019 oedd yr ymgynghoriad cyhoeddus mwyaf erioed ar ddŵr yng Nghymru a Lloegr, gyda mwy na 1.5 miliwn o bobl yn ymwneud â llunio cynlluniau ar gyfer y cyfnod rhwng 2020 a 2025.

    Mae Ofwat wrthi’n datblygu’r dull ar gyfer adlewyrchu dewisiadau cwsmeriaid mewn adolygiadau prisiau yn y dyfodol a bydd yn ymgynghori ar y ffordd y maent yn gosod rheolaethau prisiau drwy gyhoeddi eu methodoleg ddrafft yn haf 2022. Bydd Ofwat yn gwneud penderfyniadau rheoli prisiau terfynol ym mis Rhagfyr 2024.


    Eisiau gwybod mwy am y broses adolygu prisiau?


    Cliciwch yma i ymweld ag Ofwat.

Eisiau gwybod mwy am y broses adolygu pris?

Cliciwch yma i ymweld ag Ofwat.

Mae eich porwr yn hen !

Diweddaru eich porwr i weld y wefan yn gywir.